Ar #

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-803

Teitl y ddeiseb:  Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro ... mae'n bryd cyflwyno treth!

Testun y ddeiseb: Mae'r dystiolaeth ar gael i'r rhai sydd am ei gweld ... mae ein dibyniaeth ar blastig untro a deflir i ffwrdd yn gwenwyno ein byd naturiol.

Mae adar y môr yn bwyta plastigau, mae pysgod yn bwyta plastigau, mae pysgod cregyn yn bwyta plastigau ac rydym ni, felly, yn bwyta plastigau.

Mae cynhyrchu plastigau untro yn cynyddu bob blwyddyn, ond dim ond 9 y cant o blastigau sy'n cael eu hailgylchu yn y byd.

Ers i gynhyrchu plastigau ar raddfa fawr ddechrau yn y 1950au, rydym wedi cynhyrchu 8.3 biliwn o dunelli ... yn gyfwerth â phwysau un biliwn o eliffantod Affricanaidd! A disgwylir i'r ffigur hwnnw gyrraedd 34 biliwn o dunelli erbyn 2050!!

Nid oes dim o'r plastig hwn wedi bioddiraddio yn ystod y cyfnod hwn, ond yn hytrach mae wedi parhau i leihau, gan ei wneud bron yn amhosibl i’w ddileu!

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth ar yr holl blastigau untro sy'n debyg i'r taliad 5c llwyddiannus iawn ar fagiau siopa untro.

Mae'n bryd gweithredu. 

Y cefndir

Mae plastigau untro, neu blastigau a deflir i ffwrdd, wedi'u cynllunio i gael eu defnyddio unwaith a'u taflu neu eu hailgylchu. Yn nodweddiadol, eitemau fel poteli plastig, gwellt yfed, cwpanau coffi a deunydd pecynnu cludfwyd ydynt. Mae sylw diweddar yn y cyfryngau, yn arbennig cyfres Blue Planet II y BBC , wedi tynnu sylw at raddfa’r gweddillion plastig yn ein cefnforoedd o ganlyniad i'n diwylliant 'taflu'. Mae effaith plastig untro ar yr amgylchedd morol yn cael ei amlygu oherwydd pa mor gyffredin ydyw mewn arolygon sbwriel traeth. Dangosodd  Adroddiad Beachwatch Y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn 2017 mai darnau bach o blastig oedd yr eitemau a ganfuwyd fwyaf ar draethau ledled y DU. [SL(CyC|AC1] [CC(-RS2] 

Roedd adroddiad yn 2017 Single Use Plastic and the Marine Environment  gan  Eunomia  ar gyfer Seas at Risk, yn cyfrif maint y gwastraff plastig untro a oedd  'ar y gweill' gan mai'r rhain sydd fwyaf tebygol o osgoi systemau casglu gwastraff arferol. Mae prif ganfyddiadau'r gwaith ymchwil yn cynnwys y canlynol:[CC(-RS3] 

§  nid oes angen i lawer o'r eitemau hyn gael eu gwneud o blastig (e.e. mae dewisiadau eraill fel gwydr a phapur yn bodoli), tra bod eraill yn cael eu defnyddio'n ddiangen (e.e. gwellt yfed);

§  mae mesurau i leihau'r defnydd o blastig yn cael cefnogaeth uchel gan y cyhoedd, sy'n cynyddu ar ôl i'r mesurau gael eu rhoi ar waith;

§  mae atebion yn bodoli i leihau'r defnydd o blastigau untro, ac maent wedi bod yn rhedeg mewn mannau lluosog ledled y byd; a

§  byddai lleihau'n sylweddol y defnydd o eitemau plastig untro allweddol yn dileu’n effeithiol ffynhonnell fawr o lygredd morol yn holl foroedd Ewrop.

Nod treth ar blastig untro fyddai annog gostyngiad yn y defnydd ohono. Mae polisi gwastraff (gan gynnwys ailgylchu) yn fater datganoledig. Fel y cyfryw, mae Llywodraeth y DU yn datblygu polisïau ar gyfer Lloegr a chyfrifoldeb y gweinyddiaethau datganoledig yw datblygu a gweithredu eu polisïau a'u dulliau eu hunain, o fewn fframwaith gofynion yr UE. Mae strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff[SL(CyC|AC4]  (2010) Llywodraeth Cymru yn nodi ei pholisi yn y maes hwn. [SL(CyC|AC5] 

Byddai treth ar blastig untro yn cyd-fynd â Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff Llywodraeth Cymru trwy gyflawni blaenoriaethau Gweinidogol ar gyfer datblygu 'economi gylchol ', lle nad yw plastigau byth yn wastraff ac maent yn cyfrannu'n gadarnhaol i’r economi.[SL(CyC|AC6] 

Codi tâl am fagiau siopa

Mae lleihau'r defnydd o blastig untro trwy drethi eisoes wedi'i gyflwyno yng Nghymru. Ar 1 Hydref 2011, cyflwynodd Cymru ofyniad statudol i godi tâl am y rhan fwyaf o fagiau siopa untro. Hi oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Ers hynny, mae'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr wedi cyflwyno dulliau tebyg o godi isafswm o 5c am bob bag plastig a ddefnyddir.

Yn wreiddiol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gytundeb gwirfoddol a oedd yn annog manwerthwyr i roi eu derbyniadau net i achosion da. Fodd bynnag, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 bellach yn ei gwneud yn ofynnol i fanwerthwyr roi eu derbyniadau net o werthiant bagiau siopa at ddibenion elusennol sy'n ymwneud â diogelu neu wella’r amgylchedd, ac sydd o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i Gymru gyfan neu unrhyw ran o Gymru.  Bwriedir i hyn liniaru effaith y defnydd o fagiau siopa.[SL(CyC|AC7] 

Yn 2016 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Adolygiad ôl-weithredu codi tâl ar fagiau siopa untro yng Nghymru: Adroddiad ar ganfyddiadau newydd . Canfu'r adolygiad y canlynol:[HE(-RS8] 

§    Bu gostyngiad o 71% yn nifer y bagiau siopa untro a ddefnyddiwyd ers i'r newid gael ei gyflwyno;

§    Mae cynnydd yn nifer y 'bagiau am oes' a ddefnyddir a bagiau eraill y gellir eu hailddefnyddio yn golygu y bu gostyngiad cyffredinol o 57% yn nifer yr holl fagiau a ddefnyddiwyd

§    Buddion net y tâl am fagiau siopa untro oedd rhwng £28 miliwn a £32 miliwn; ac

§    O ganlyniad i'r arian a roddwyd i achosion da, amcangyfrifir bod buddion cymdeithasol o rhwng £27 miliwn a £35 miliwn wedi’u sicrhau a hynny ar ffurf buddion i’r amgylchedd, iechyd a chyflogaeth.

Datblygiadau yn Lloegr

Ar 11 Ionawr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Gynllun Amgylchedd 25-mlynedd ar gyfer Lloegr, yn amlinellu deg nod ar gyfer gwella'r amgylchedd gan ddefnyddio dull 'cyfalaf naturiol', gan gynnwys: [SL(CyC|AC9] 

Gweithio tuag at ddileu'r holl wastraff y gellir ei osgoi erbyn 2050 a'r holl wastraff plastig y gellir ei osgoi erbyn diwedd 2042.

Mae  blog  diweddar gan y Gwasanaeth Ymchwil yn rhoi trosolwg o'r cynllun, ac mae'n trafod sut y gallai effeithio ar Gymru.[SL(CyC|AC10] 

Datblygiadau yn Tsieina

Allforiodd Cymru dros 4,000 o dunelli o wastraff plastig y llynedd i'w ailgylchu ( Cyfarfod Llawn , 09 Ionawr 2018). Mae dogfen y Comisiwn Ewropeaidd A European Strategy for Plastics in a Circular Economy yn datgan bod dros 85 y cant o'r gwastraff plastig sy’n cael ei allforio yn cael ei gludo i Tsieina ar hyn o bryd. Mae penderfyniad Tsieina i roi rheolaethau tynnach ar fewnforio gwastraff, gan gynnwys atal mewnforio gwastraff plastig i'w ailgylchu, yn gorfodi Cymru i fod yn fwy rhagweithiol o ran lleihau'r defnydd o blastigau untro. [SL(CyC|AC11] [SL(CyC|AC12] 

Mae WRAP UK yn ymchwilio i ba effaith y bydd y cyfyngiadau hyn yn ei chael ar y DU mewn   Llythyr Agored ar Gyfyngiadau Mewnforio Gwastraff Tsieina . [SL(CyC|AC13] 

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ar 14  Mawrth 2017, mewn ymateb i ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar ailgylchu , dywedodd Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, y byddai "dull mwy radical fel ... a chostau ychwanegol neu atal defnyddio cynwysyddion bwyd a diod untro" yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses o adfywio’r polisi Tuag at Ddyfodol Diwastraff yn 2018 [SL(CyC|AC14] 

Mewn datganiad ysgrifenedig  ar 27 Medi 2017, dywedodd Lesley Griffiths AC,  Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, "fel Llywodraeth, rydym yn derbyn bod angen gwneud mwy i wella ein cyfradd ailgylchu ymhellach ac i fynd i'r afael â sbwriel a'r materion sy'n gysylltiedig â chymdeithas a diwylliant 'taflu'’. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, awgrymodd mai’r nod fyddai "atal sbwriel rhag mynd i mewn i'r amgylchedd yn y lle cyntaf", a  "gwerthfawrogi'r adnoddau hynny rydym ni’n eu cymryd yn ganiataol yn rhy aml". Cyhoeddodd astudiaeth i Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) i asesu opsiynau posibl, gan ddweud:[SL(CyC|AC15] 

Rwyf wedi comisiynu astudiaeth i asesu ymyriadau posibl i gynyddu gweithgarwch atal gwastraff, codi cyfraddau ailgylchu a lleihau sbwriel ar y tir a sbwriel morol. Bydd cynlluniau cyfrifoldeb cynhyrchwyr, megis y cynlluniau sydd ar waith yn y DU ar hyn o bryd, yn cael eu cynnwys yn yr ymchwil. Bydd Cynlluniau Dychwelyd Blaendal yn cael eu cynnwys hefyd. Bydd yr ymchwil hefyd yn asesu effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol posibl cynlluniau ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr (EPR), gan gynnwys unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl

Atebodd Hannah Blythyn AC, Gweinidog yr Amgylchedd, gwestiynau gan yr Aelodau yn y  Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2018 ar ddeunydd pacio plastig. Nododd fod Llywodraeth Cymru yn aros am ganlyniad yr astudiaeth EPR cyn penderfynu sut i symud ymlaen. Cadarnhaodd y Prif Weinidog ganlyniad yr astudiaeth EPR yn y  Cyfarfod Llawn  ar 09 Ionawr 2018 "Byddwn yn cael adroddiad yr astudiaeth honno ym mis Chwefror". Ar adeg ysgrifennu'r papur briffio hwn, nid oedd yr astudiaeth wedi'i chyhoeddi.[SL(CyC|AC16] [SL(CyC|AC17] 

Yn ddiweddar, ystyriodd Llywodraeth Cymru dreth ar ddeunydd plastig untro fel un o bedair  treth newydd bosibl  i'w cyflwyno o dan y pwerau newydd a gynhwysir yn Neddf Cymru 2017. Mae adroddiad polisi trethi  Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o fanylion am y rhestr fer.[SL(CyC|AC18] [SL(CyC|AC19] 

Cyhoeddodd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn Datganiad yn y Cyfarfod Llawn  ar 13 Chwefror 2018 na fyddai'r dreth ar ddeunydd plastig untro yn cael ei chyflwyno gan fod 'treth tir gwag' wedi cael ei dewis yn lle hynny. Dywedodd:[SL(CyC|AC20] 

Bydd Llywodraeth y DU yn dechrau casglu tystiolaeth ar sut y bydd yn ymdrin â phroblem plastig untro, gan gynnwys drwy ddefnyddio treth. Beth bynnag fo’i rinweddau, mae'r cyhoeddiad hwnnw, rwy’n credu, yn creu rhwystr ar lwybr unrhyw gynnig ar gyfer Cymru yn unig.

Mewn datganiad gan Lywodraeth Cymru a gyflwynwyd yn y Cyfarfod Llawn  ar 27 Chwefror 2018, trafododd Gweinidog yr Amgylchedd gamau Llywodraeth Cymru o ran plastigau untro:

Rydym ni wedi sicrhau y bu Cymru’n rhan o alwad Llywodraeth y DU am dystiolaeth ynglŷn â sut y bydd yn ymdrin â mater plastig untro, gan gynnwys drwy ddefnyddio treth.

Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i weithio ar dreth plastig tafladwy annibynnol posibl ar gyfer Cymru. 

Yn dilyn Ymgynghoriad ledled y DU  yn 2016 ar wahardd gweithgynhyrchu a gwerthu meicrobelenni, math o blastig micro, mewn cynnyrch cosmetig sy’n golchi i ffwrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar sut y dylid gweithredu’r gwaharddiad yng Nghymru. Yn benodol, ystyriodd yr ymgynghoriad sut y gellid gweithredu'r gwaharddiad a'i orfodi yng Nghymru. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 8 Ionawr 2018, ac mae’r ddogfen,  crynodeb o’r ymatebion  yn nodi'r camau nesaf:

Os bydd Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo'r ddeddfwriaeth, bydd y gwaharddiad ar weithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion sy'n cynnwys meicrobelenni plastig yn dod i rym o 30 Mehefin 2018 ymlaen.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am feicrobelenni mewn blog  gan y Gwasanaeth Ymchwil yn 2017.[SL(CyC|AC21] 

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 5 Ebrill 2017, arweiniodd Simon Thomas AC ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod ar Fil Lleihau Gwastraff ar gyfer Cymru. Roedd y cynnig yn canolbwyntio ar gynlluniau dychwelyd blaendal, gwaharddiad neu ardoll ar ddeunydd pecynnu polystyren (na ellir ei ailgylchu) a gosod gofynion newydd ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr i leihau deunydd pecynnu diangen.[SL(CyC|AC22] 

Cafodd y cynnig gefnogaeth drawsbleidiol, a phasiwyd y cynnig gyda 34 o blaid, dim yn erbyn a 12 yn ymatal.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 


 [SL(CyC|AC1]Dim Cymraeg

 [CC(-RS2]No Welsh

 [CC(-RS3]No Welsh

 [SL(CyC|AC4]http://gov.wales/topics/environmentcountryside/epq/waste_recycling/zerowaste/?skip=1&lang=cy

 [SL(CyC|AC5]http://gov.wales/topics/environmentcountryside/epq/waste_recycling/zerowaste/?skip=1&lang=cy

 [SL(CyC|AC6]Dim Cymraeg

 [SL(CyC|AC7]http://www.legislation.gov.uk/anaw/2016/3/contents/enacted/welsh

 [HE(-RS8]http://gov.wales/statistics-and-research/post-implementation-review-single-use-carrier-bag-charge-wales/?skip=1&lang=cy

 [SL(CyC|AC9]Dim Cymraeg

 [SL(CyC|AC10]https://seneddymchwil.blog/2018/01/25/sut-y-bydd-y-cynllun-amgylchedd-25-mlynedd-yn-effeithio-ar-gymru/

 [SL(CyC|AC11]Trawsgrifiad dwyieithog

 [SL(CyC|AC12]Dim Cymraeg

 [SL(CyC|AC13]Dim Cymraeg

 [SL(CyC|AC14]Trawsgrifiad dwyieithog

 [SL(CyC|AC15]http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2017/extendedproducerresponsibilityresearch/?skip=1&lang=cy

 [SL(CyC|AC16]Trawsgrifiad dwyieithog

 [SL(CyC|AC17]Trawsgrifiad dwyieithog

http://gov.wales/funding/fiscal-reform/tax-policy-development/tax-forum/?skip=1&lang=cy

http://gov.wales/funding/fiscal-reform/framework/?skip=1&lang=cy

 [SL(CyC|AC20]Trawsgrifiad dwyieithog

 [SL(CyC|AC21]https://seneddymchwil.blog/2017/01/23/rheoli-microblastigau-morol-gwaharddiad-arposed-y-du-ar-beli-micro/

 [SL(CyC|AC22]Trawsgrifiad dwyieithog